Memorandwm ar yr Economi a’r Seilwaith

Cynigion y Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2017/18

Sgiliau a Gwyddoniaeth

 

Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau – 3 Tachwedd 2016


1.0         Cyflwyniad

 

 

Mae’r papur hwn yn darparu gwybodaeth am elfennau Sgiliau a Gwyddoniaeth cynigion y gyllideb ar gyfer yr Economi a’r Seilwaith, fel y’u nodir yn y Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2017/18 a gyhoeddwyd ar 18 Hydref.  Mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu cyhoeddi setliad refeniw blwyddyn, er mwyn caniatáu amser i asesu effaith Datganiad yr Hydref yn nhermau cynlluniau gwario refeniw ar ôl 2017/18. Cyhoeddwyd cyllideb cyfalaf bedair blynedd sy’n cynnwys cyllideb gadarn ar gyfer 2017/18 a dyraniadau dangosol ar gyfer y tair blynedd ganlynol. Bydd yr agwedd hirdymor hon ar gynllunio cyfalaf yn darparu mwy o dryloywder a sicrwydd i’n rhanddeiliaid allweddol a’n partneriaid cyflawni.

 

2.0         Crynodeb o’r Newidiadau yn y Gyllideb


Yn gyffredinol, mae dyraniadau’r gyllideb ar gyfer 2017/18 i gefnogi’r portffolio Sgiliau a Gwyddoniaeth wedi cynyddu £14.147 miliwn, o’u cymharu â Chyllideb Sylfaenol Ddiwygiedig 2016/17. Mae’r symudiad hwn yn cynnwys gostyngiad cyfalaf o £0.024 miliwn a chynnydd o £14.171 miliwn i’r dyraniad cyfalaf, a ddangosir yn Nhablau 1 a 2 isod. Nid oes unrhyw newidiadau yn y gyllideb anariannol.

 

TABL 1: TROSOLWG O’R GYLLIDEB REFENIW

 

Maes Rhaglenni Gwariant

Llinell Sylfaen Ddiwygiedig 2017/18

£’000

Newidiadau

2017/18


     £’000

Cyllideb Ddrafft 2017/18

£’000

Refeniw

 

 

 

Sectorau a Busnes (Gwyddorau Bywyd yn unig)

2,896

0

2,896

Gwyddoniaeth ac Arloesi

10,514

0

10,514

Sgiliau

141,875

0

141,875

Seilwaith

9,041

(24)

9,017

 

 

 

 

Cyfanswm

164,326

(24)

164,302

Anariannol

 

 

 

Seilwaith

1,309

0

1,309

Cyfanswm

1,309

0

1,309

           

 

 

TABL 2: TROSOLWG O’R GYLLIDEB CYFALAF

 

Cyllideb Atodol Gyntaf 2016/17 £’000

Dyraniadau’r Gyllideb Ddrafft 2017/18

2017/18

£’000

2018/19

£’000

2019/20

£’000

2020/21

£’000

Cyfanswm

£’000

Cyfalaf Traddodiadol

Sectorau a Busnes (Gwyddorau Bywyd yn Unig)

 

 

6,855

 

 

9,711

3,605

2,000

1,000

16,316

Gwyddoniaeth ac Arloesi

 

5,541

 

12,610

601

62

62

13,335

Seilwaith

16,304

20,550

7,500

1,500

19,500

49,050

CYFANSWM

28,700

42,871

11,706

3,562

20,562

78,701

           

Mae Tabl manwl ar Linellau Gwariant yn y Gyllideb yn Atodiad A.

 

2.1   Newidiadau Refeniw

 

Wrth baratoi’r cynlluniau rydym wedi ceisio lleihau’r gostyngiadau refeniw y mae angen eu gwneud o’r portffolio.  Mae’r gyllideb refeniw wedi’i diogelu gydag un arbediad bach o £0.024 miliwn yn y gyllideb Seilwaith TGCh oherwydd llai o alw am waith datblygu contractau.  Mae’r gostyngiad hwn yn rhan o arbediad refeniw ehangach sy’n ofynnol gan y Prif Grŵp Gwariant (MEG) Economi a’r Seilwaith.

 

Ein prif gymorth refeniw yw parhau i ariannu prentisiaethau a hyfforddiaethau yng Nghymru.  Yn 2017/18 caiff yr ymrwymiad allweddol i sicrhau 100,000 o leoedd prentisiaeth newydd yn Symud Cymru Ymlaen 2016-21 ei gefnogi gyda £111 miliwn. Bydd y lleoedd hyn yn darparu’r hyfforddiant cywir i bobl o bob oed, er mwyn iddynt allu cael mynediad i’r swyddi sydd eu hangen arnynt i wneud cyfraniad ystyrlon at gymdeithas a sicrhau bod cyflogwyr yn gallu cyflogi pobl sy’n meddu ar y sgiliau sydd eu hangen arnynt i ddatblygu eu busnesau.

Mae dyraniadau’r gyllideb ddrafft yn cyflawni ymrwymiadau Symud Cymru Ymlaen ymhellach, drwy ddarparu cymorth i’r economi drwy fuddsoddiad parhaus mewn gwyddoniaeth, arloesi a gwyddorau bywyd. Gallwn hefyd barhau i gefnogi gallu’r sector cyhoeddus i gael mynediad i fand eang cyflymach ar hyd a lled Cymru a sicrhau bod pobl yn meddu ar y sgiliau digidol er mwyn gallu manteisio ar y dechnoleg hon.

 

2.2   Newidiadau Cyfalaf

 

Mae’r setliad cyfalaf pedair blynedd ar gyfer MEG yr Economi a’r Seilwaith yn heriol ac felly mae’r cynlluniau wedi’u blaenoriaethu ar draws y portffolio er mwyn hyrwyddo’r agenda Symud Cymru Ymlaen.

 

Ar gyfer 2017/18, mae cynnydd o £2.856 miliwn ar gyfer Gwyddorau Bywyd ac £8.677 miliwn ar gyfer Arloesi yn adlewyrchu ein hymrwymiad parhaus i ariannu prosiectau mawr a denu buddsoddiadau o ansawdd uchel i Gymru.  Mae cyllidebau’r blynyddoedd i ddod yn adlewyrchu llai o gyllid yn unol â’r gofynion cyflawni ar gyfer y prosiectau hyn. Mae’r gyllideb cyfalaf ar gyfer gwyddoniaeth yn gostwng £1.608 miliwn yn 2017/18, sy’n unol â’r gofynion cyllido prosiectau sy’n cael eu cyflawni.

 

Mae cyllideb y Seilwaith TGCh wedi cynyddu £4.246 miliwn yn 2017/18 sy’n adlewyrchu ein hymrwymiad i ddarparu band eang cyflym ac effeithiol i bob cartref a safle yng Nghymru, er gwaethaf y setliad cyllideb heriol.  Mae’r gostyngiadau yn 2018/19 a 2019/20 a chynnydd dilynol yn 2020/21 yn y llinell wariant hon yn y gyllideb (BEL) yn y dyfodol yn adlewyrchu’r ffaith y bydd y prosiectau presennol yn dod i ben a dechrau’r Prosiect Cyflymu Cymru II arfaethedig.

 

 

3.0   Cyllidebau Sectorau a Busnes

 

 

Maes Rhaglenni Gwariant: Sectorau a Busnes

Cam Gweithredu

BEL

Categori Gwariant

Llinell Sylfaen Ddiwygiedig

2017/18

£’000

Newidiadau

2017/18

£’000

Cyllideb Ddrafft 2017/18

£’000

Sectorau

3764 – Gwyddorau Bywyd

Adnoddau

2,896

0

2,896

CYFANSWM

2,896

0

2,896

 

Cam Gweithredu: Sectorau

Llinell Wariant yn y Gyllideb

Cyllideb Atodol Gyntaf 2016/17 £’000

Dyraniadau’r Gyllideb Ddrafft 2017/18

2017/18

£’000

2018/19

£’000

2019/20

£’000

2020/21

£’000

Cyfanswm

£’000

Cyfalaf Traddodiadol

3764 – Gwyddorau Bywyd

6,855

9,711

3,605

2,000

1,000

16,316

CYFANSWM

6,855

9,711

3,605

2,000

1,000

16,316

 

 

 

 

Y Sector Gwyddorau Bywyd – Trosolwg o Bolisi a Strategaeth

 

Mae’r sector Gwyddorau Bywyd yn sbardun pwysig o ran twf economaidd a gwella llesiant. Mae’n gwneud cyfraniad sylweddol at yr economi drwy greu swyddi, cynyddu cyfoeth a datblygu sgiliau ym mhen uchaf y farchnad. Yn cwmpasu’r diwydiant fferyllol, biodechnoleg a thechnoleg feddygol gyda weithgareddau amrywiol gan gynnwys ymchwil, profi, gweithgynhyrchu a darparu gwyddoniaeth arbenigol, mae Gwyddorau Bywyd yn ymgorffori partneriaid o fyd busnes, y GIG a meysydd academaidd.  Mae gan y sector yng Nghymru glystyrau o ragoriaeth a chyda’r cymorth priodol, gellid datblygu hyn yn sector hyfyw, cynaliadwy a ffyniannus o fudd economaidd a chymdeithasol sylweddol. Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i sicrhau mai Cymru yw’r amgylchedd gorau posibl ar gyfer arloesi a thwf busnes yn y maes Gwyddorau Bywyd. Bydd llwyddiant yn seiliedig ar sicrhau cynnydd mewn cyflogaeth yn y sector (y swyddi sy’n cael eu creu, eu diogelu a’u cynorthwyo) ac olrhain y manteision ehangach i iechyd a’r economi yng Nghymru.

 

 

Rhaglenni a Phrosiectau Pwysig

 

Mae’r Llinell Wariant yn y Gyllideb (BEL) ar gyfer y Gwyddorau Bywyd yn ariannu nifer o raglenni / prosiectau seilwaith meithrin gallu yn y tymor byr, y tymor canolig a’r hirdymor a chreu swyddi drwy weithgareddau cefnogi busnesau Cyllid Busnes Ad-daladwy.

 

Yn y tymor byr, byddwn yn parhau i ddarparu cymorth refeniw a chyfleoedd i ddatblygu ar gyfer ecosystem y Gwyddorau Bywyd yng Nghymru.  Bydd y Ganolfan Gwyddorau Bywyd yn parhau i fod yn ganolbwynt i’r ecosystem a bydd yn canolbwyntio ar gynnal ymyriadau cymorth i’r sector gan gynnwys y GIG (Cymru), Cronfa Bontio Gwyddorau Bywyd, Boost Cymru a’r Gronfa Fuddsoddi mewn Gwyddorau Bywyd.  Yn 2017/18 neilltuwyd £2.896 miliwn gennym ar gyfer y mentrau hyn.

 

Mae manteision a chyfleoedd sy’n deillio o’n buddsoddiadau presennol yn y sector hwn yn cael eu hystyried. Yn dilyn y cyhoeddiad diweddar y bydd Caerdydd yn ganolfan ranbarthol ar gyfer Precision Medicine Catapult, byddwn yn gweithio gyda’r diwydiant i greu’r effaith economaidd fwyaf. Mae Cymru wedi creu clwstwr o fusnesau meddygaeth aildyfu amlwg a byddwn yn gweithio ar lefel ryngwladol i ddatblygu busnesau.

 

Yn y tymor canolig, byddwn yn hwyluso treialon a chysylltiadau arddangos ac yn cynorthwyo gyda chyfleoedd llwybr i’r farchnad ar gyfer busnesau Gwyddorau Bywyd yn GIG Cymru ac is-sectorau strategol allweddol.  Bydd gwariant cyfalaf o £16.316 miliwn dros y pedair blynedd yn cefnogi’r ymrwymiadau ar gyfer y buddsoddiadau seilwaith strategol, ac yn creu amgylchedd heb ei ail a fydd yn galluogi cwmnïau meddygaeth aildyfu i ffynnu. Gan adeiladu ar lefelau uwch o integreiddio’r ecosystem, byddwn yn cynnal gweithgareddau a fydd yn cyflawni potensial y Gadwyn Gyflenwi Gwyddorau Bywyd yng Nghymru. Byddwn yn gweithio ochr yn ochr â chynigion eraill yn cynnwys ARCH (Gorllewin Cymru) a’r Ganolfan Arloesi Clinigol (De Cymru) er mwyn iddynt allu sicrhau’r effaith economaidd fwyaf.

 

Yn y tymor hwy, byddwn yn parhau i godi proffil rhyngwladol y sector drwy greu brand rhyngwladol sy’n amlygu ei natur lwyddiannus arloesol ac yn denu twf a swyddi newydd i Gymru. Rydym hefyd yn ceisio creu llwybr cliriach i’r farchnad ar gyfer cyflwyno cynhyrchion i’r GIG a’u mabwysiadu yn y tymor hwy.

 

4.0   Cyllidebau Gwyddoniaeth ac Arloesi

 

 

Maes Rhaglenni Gwariant: Gwyddoniaeth ac Arloesi

Cam Gweithredu

BEL

Categori Gwariant

Llinell Sylfaen Ddiwygiedig

2017/18 £’000

Newidiadau

2017/18

£’000

Cyllideb Ddrafft

2017/18

£’000

Arloesi

Arloesi Busnes

Adnoddau

1,520

0

1,520

Canolfannau Arloesi a Chyfleusterau Ymchwil a Datblygu

Adnoddau

2,553

0

2,553

Cydweithio rhwng y Byd Academaidd a Busnes

Adnoddau

1,646

0

1,646

Cyfanswm

 

 

5,719

0

5,719

Gwyddoniaeth

Gwyddoniaeth

Adnoddau

4,795

0

4,795

Cyfanswm

 

 

4,795

0

4,795

CYFANSWM

10,514

0

10,514

 

 

BEL

Cyllideb Atodol Gyntaf

2016/17 £’000

Dyraniadau’r Gyllideb Ddrafft 2017/18

2017/18

£’000

2018/19

£’000

2019/20

£’000

2020/21

£’000

Cyfanswm

£’000

Cyfalaf Traddodiadol

Cam Gweithredu: Arloesi

Cydweithio rhwng y Byd Academaidd a Busnes

 

3,062

 

11,739

62

62

62

11,925

Cyfanswm

3,062

11,739

62

62

62

11,925

Cam Gweithredu: Gwyddoniaeth

Gwyddoniaeth

2,479

871

539

0

0

1,410

Cyfanswm

2,479

871

539

0

0

1,410

CYFANSWM

5,541

12,610

601

62

62

13,335

 

Llinell Wariant yn y Gyllideb -  Arloesi

 

Mae’r cyllid refeniw a chyfalaf o £17.644 miliwn ar gyfer Arloesi yn cefnogi rhaglenni arloesi yr UE, SMART Cymru ac Arbenigedd SMART. Mae’r rhaglenni hyn yn annog busnesau i fuddsoddi mewn arloesi a datblygu cysylltiadau gyda’r byd academaidd gydag arloesi busnes, gyda’r nod o wella natur gystadleuol cwmnïau a darparu twf economaidd cynaliadwy.  Mae’r cyllid cyfalaf uwch yn 2017/18 yn ein galluogi i gwblhau ein buddsoddiad ym Mharc Gwyddoniaeth Menai a’r Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd.

 

 

Llinell Wariant yn y Gyllideb  - Gwyddoniaeth

 

Mae’r cyllid refeniw a chyfalaf o £6.205 miliwn yn cefnogi mentrau i gyflawni Strategaeth Gwyddoniaeth i Gymru.

 

Mae’r gyllideb yn cynnwys cyllid refeniw a chyfalaf i gefnogi Sêr Cymru, Sêr Cymru 2 a mentrau’r Academi Wyddoniaeth Genedlaethol.  Mae dyraniad cyfalaf ar gyfer y blynyddoedd i ddod o £1.410 miliwn yn darparu ar gyfer gofynion cyfalaf Sêr Cymru wrth i’r rhaglenni gael eu cyd-ariannu gyda chyllid allanol.  Mae rhaglenni Sêr Cymru yn cael eu cefnogi hefyd gan gyllidebau Iechyd ac Addysg.

 

 

 

 

 

 

5.0   Cyllidebau Sgiliau

 

Maes Rhaglenni Gwariant: Sgiliau

Cam Gweithredu

Maes Rhaglenni Gwariant

Categori Gwariant

Llinell Sylfaen Ddiwygiedig

2017/18

£’000

Newidiadau

2017/18

£’000

Cyllideb Ddrafft

2017/18

£’000

Dysgu Seiliedig ar Waith

Dysgu Seiliedig ar Waith

Adnoddau

111,308

 

111,308

Sgiliau Darparu Cymorth

Sgiliau Marchnata

Adnoddau

648

 

648

Polisi Sgiliau

Polisi Sgiliau ac Ymgysylltu

Adnoddau

1,261

(200)

1,061

Cyflogaeth a Sgiliau

Cyflogaeth a Sgiliau

Adnoddau

28,658

200

28,858

CYFANSWM

141,875

0

141,875

 

 

Mae £0.200 miliwn yn cael ei drosglwyddo o’r gyllideb Polisi Sgiliau ac Ymgysylltu i’r gyllideb Cyflogaeth a Sgiliau.  Bydd y cyllid hwn yn cefnogi datblygiad Strategaeth Cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru a dull newydd o ddarparu hyfforddiant sgiliau a chyflogadwyedd i bobl ddi-waith a phobl sy’n cael eu tangyflogi sy’n 16 oed a hŷn.

 

 

Llinell Wariant yn y Gyllideb - Dysgu Seiliedig ar Waith

 

Cyllideb 2017/18 ar gyfer Dysgu Seiliedig ar Waith yw £136.308 miliwn o wariant gros gyda chyfraniadau o £25 miliwn wedi’u cyllidebu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, sy’n gadael cyllideb net o £111.308 miliwn.

 

Mae’r gyllideb Dysgu Seiliedig ar Waith yn cefnogi:

 

·       darparu prentisiaethau ar gyfer pob oedran (tua £98 miliwn)

·       darparu’r rhaglen Hyfforddiaethau (rhaglen cyflogadwyedd ieuenctid Llywodraeth Cymru) (tua £33 miliwn);

·       cymorth i recriwtio prentisiaid 16-18 oed (tua £2.5 miliwn)

·       y rhaglen Ysbrydoli Sgiliau a chynlluniau peilot eraill sy’n ceisio cynyddu nifer y bobl sy’n cymryd rhan mewn prentisiaethau e.e. ‘Have a Go’ (tua £1.2 miliwn)

·       Costau staff a marchnata sy’n gysylltiedig â phrosiectau Cronfa Gymdeithasol Ewrop (tua £2 filiwn).

 

Mae prentisiaethau yn cael eu hariannu am ddwy flwyddyn ariannol neu fwy, yn ôl hyd y rhaglen Brentisiaeth. Mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb i gefnogi prentisiaid nes byddant wedi cwblhau eu fframweithiau. Mae’r gyllideb hon yn darparu’r cyllid i ddechrau darparu’r ymrwymiad ‘Symud Cymru Ymlaen’ o 100,000 o brentisiaethau newydd yn ystod oes y llywodraeth. Bydd hyn yn darparu’r sgiliau sydd eu hangen ar bobl o bob oed i ddod o hyd i swyddi hirdymor ac, mewn busnesau, y gweithlu medrus sydd ei angen i ddatblygu eu busnes a’r economi yng Nghymru.

 

 

Llinell Wariant yn y Gyllideb -  Sgiliau Marchnata

 

Mae’r gyllideb hon yn ariannu gweithgaredd marchnata i hybu’r rhaglenni prentisiaethau a hyfforddiaethau a chefnogi digwyddiadau gwobrwyo sgiliau.

 

Llinell Wariant yn y Gyllideb – Polisi Sgiliau ac Ymgysylltu

 

Mae gwaith o dan y Llinell Wariant yn y Gyllideb - Polisi Sgiliau ac Ymgysylltu wedi’i drefnu o dan dri amcan allweddol:

 

·      Creu a chyfleu polisi sgiliau Llywodraeth Cymru gan ystyried y tirlun polisi ehangach ar draws y DU gyfan;

 

·      Sefydlu agenda darparu sgiliau gref, wedi’i harwain gan gyflogwyr, gyda chefnogaeth Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol;

 

·      Ymgysylltu â chyflogwyr allweddol a’u cefnogi drwy reoli perthnasau strategol er mwyn cyflawni anghenion sgiliau drwy brosiectau sy’n cael eu harwain gan gyflogwyr.

Mae’r agenda Polisi Sgiliau ac Ymgysylltu yn cynnwys: arwain ar y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol fel sail i’n systemau addysg a hyfforddiant galwedigaethol gan ystyried agenda sgiliau’r DU; cefnogi systemau sicrhau ansawdd, dosbarthu, dadansoddi a chaffael tystiolaeth i gefnogi sgiliau, cyflogaeth a datblygu dysgu drwy wybodaeth gadarn am y Farchnad Lafur, gan weithio’n agos gyda’r Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol; a gweithredu fel yr arweinydd sgiliau wrth ymgysylltu â chyflogwyr. Mae hyn yn cynnwys gweithio’n agos gyda Thimau Sector a Busnes ehangach ar arwain ar y Rhaglen Sgiliau Hyblyg, i gyflawni anghenion sgiliau cyflogwyr strategol nad yw’r ddarpariaeth brif ffrwd yn gallu eu cyflawni.

 

Llinell Wariant yn y Gyllideb – Cyflogaeth a Sgiliau

 

Mae’r Llinell Wariant yn y Gyllideb – Cyflogaeth a Sgiliau yn ariannu’r gwaith o ddatblygu a darparu strategaethau, polisïau a rhaglenni sy’n cynorthwyo pobl i gael mynediad i waith, dychwelyd at waith, parhau a gwneud cynnydd mewn gwaith drwy gymorth sgiliau a hyfforddiant. Mae’r gyllideb graidd o £28.858 miliwn yn denu £20 miliwn y flwyddyn gan yr UE i gefnogi swm sylweddol o weithgaredd, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol.

 

Mae’r gyllideb yn darparu nifer o raglenni a gweithgareddau cymorth cyflogadwyedd a sgiliau presennol, gan gynnwys ReAct, Twf Swyddi Cymru, y Rhaglen Sgiliau Cyflogadwyedd, y Rhaglen Blaenoriaethau Sgiliau, y Rhaglen Sgiliau Hyblyg, Cronfa Ddysgu Undebau Cymru, Y Porth Sgiliau, ac mae’n rheoli cyllid craidd ar gyfer Gwasanaethau Addysg a Dysgu TUC Cymru a Chwarae Teg.

 

 

 

 

 

 

6.0   Cyllidebau’r Seilwaith

 

Maes Rhaglenni Gwariant: Seilwaith

Cam Gweithredu

BEL

Categori Gwariant

Llinell Syflaen Ddiwygiedig

2017/18 £’000

Newidiadau

2017/18

£’000

Cyllideb Ddrafft

2017/18

£’000

Darparu Seilwaith TGCh

Cynhwysiant Digidol

Adnoddau

1,250

 

1,250

Prosiect Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus

Adnoddau

5,740

 

5,740

Gweithrediadau Seilwaith TGCh

Adnoddau

2,051

(24)

2,027

Cyfanswm

 

 

9,041

(24)

9,017

Darparu Seilwaith TGCh

Gweithrediadau Seilwaith TGCh

Dim Arian

1,309

 

1,309

Cyfanswm

 

 

1,309

0

1,309

Cyfanswm

10,350

(24)

10,326

 

 

Cam Gweithredu: Darparu Seilwaith TGCh

BEL

Cyllideb Atodol Gyntaf

2016/17 £’000

Dyraniadau’r Gyllideb Ddrafft 2017/18

2017/18

£’000

2018/19

£’000

2019/20

£’000

2020/21

£’000

Cyfanswm

£’000

Cyfalaf Traddodiadol

Gweithrediadau Seilwaith TGCh

16,304

20,550

7,500

1,500

19,500

49,050

 

16,304

20,550

7,500

1,500

19,500

49,050

 

 

Trosolwg Polisi a Strategaeth

Bydd y cyllid yn datblygu Symud Cymru Ymlaen drwy gefnogi prosiectau a rhaglenni sy’n datblygu a gwella mynediad at y seilwaith band eang a’r rhwydwaith cyfathrebu ar hyd a lled Cymru gyfan.

 

Llinell Wariant yn y Gyllideb – Cynhwysiant Digidol

 

Dyfarnwyd contract i Ganolfan Cydweithredol Cymru i helpu i gynorthwyo rhagor o bobl i elwa’n llawn o’r cyfleoedd sydd ar gael drwy ddefnyddio technolegau digidol. Mae rhaglen Cymunedau Digidol Cymru yn cefnogi sefydliadau partner sy’n gweithio gyda’r unigolion hynny sydd fwyaf tebygol o fod wedi’u hallgáu yn ddigidol, i’w helpu i wella eu bywydau. Mae’r contract yn weithredol hyd fis Mawrth 2017, gydag opsiwn i’w ymestyn hyd 2019 a rhoddir ystyriaeth i’r opsiwn hwn yn ystod y deuddeg mis nesaf.

 

Llinell Wariant yn y Gyllideb – Prosiect Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus

 

Mae’r gyllideb hon yn cefnogi’r contract a ddyfarnwyd i BT ym mis Hydref 2014 am o leiaf saith mlynedd. Mae’r contract hwn yn darparu dull o brynu cydweithredol o ystod eang o wasanaethau rhwydweithio ac integreiddio gwasanaethau. Mae’n cefnogi mwy nag 80 o sefydliadau’r sector cyhoeddus ar hyn o bryd, gan ddarparu mwy na 4,000 o wasanaethau ar safleoedd.

 

 

Llinell Wariant yn y Gyllideb – Gweithrediadau Seilwaith TGCh

Y pedair prif raglen weithgaredd yw:

 

·         Datblygu Cyflymu Cymru (refeniw)– dyfarnwyd contractau i wahanol ddarparwyr er mwyn helpu busnesau i sicrhau budd masnachol o’r seilwaith band eang Cyflymu Cymru a chreu difidend economaidd i Gymru. Mae’n brosiect pum mlynedd, a ddechreuodd ar ddiwedd 2015. Mae’r prosiect yn defnyddio cyllid gan Lywodraeth Cymru a’r UE.

 

·         Cyflymu Cymru (cyfalaf)- dyfarnwyd y contract i BT i ddatblygu seilwaith band eang cyflym iawn i Gymru, a fyddai’n gallu darparu cyflymder o 30mbps neu fwy. Mae’r prosiect yn defnyddio cyllid gan Lywodraeth Cymru, yr UE a BDUK. Disgwylir i’r prosiect gael ei gwblhau yn 2017.

 

·         Mewnlenwi Band Eang (cyfalaf)- dyfarnwyd y contract i Airband i ddatblygu seilwaith lloeren a diwifr i barciau busnes yng Nghymru sy’n gallu darparu 30mbps neu fwy. Roedd y prosiect yn defnyddio cyllid domestig a chyllid BDUK.

 

·         Mynediad i Fand Eang Cymru (cyfalaf)- cynllun sy’n cael ei arwain gan alw, sy’n darparu grant i gefnogi mynediad i atebion band eang eraill, sy’n gallu darparu cyflymder lawrlwytho cyflym iawn a sefydlog.

 

 

Ymchwilir i gam ychwanegol ar gyfer Cyflymu Cymru ar gyfer 2017/18. Bydd y prosiect hwn yn adeiladu ar y seilwaith a grëwyd yn y cam cyntaf a bydd yn darparu opsiynau ar gyfer cyrraedd y safleoedd hynny nad oeddent wedi’u cynnwys yn y cam cyntaf. Bydd y prosiect yn defnyddio cyllid Llywodraeth Cymru a’r UE. Mae gwaith yn mynd rhagddo gyda BT i ryddhau cyllid refeniw a gynhyrchwyd yn y cam cyntaf i gefnogi’r gweithgaredd ychwanegol hwn.

 

Mae’r gostyngiad refeniw o £0.024 miliwn yn adlewyrchu gostyngiad yn y galw am waith datblygu contractau.

 

 

7.0   Blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer y Pumed Cynulliad

 

Mae’r blaenoriaethau ar gyfer Llywodraeth Cymru wedi’u datblygu ar sail pedair thema drawsbynciol, a fydd yn pennu’r fframwaith ar gyfer cyflawni ein blaenoriaethau, sef:

 

·         Cymru ffyniannus a diogel;

·         Cymru iach ac egnïol;

·         Cymru uchelgeisiol sy’n dysgu;

·         Cymru unedig a chysylltiedig.

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Symud Cymru Ymlaen sy’n pennu’r blaenoriaethau ar gyfer y pum mlynedd nesaf i ddarparu rhagor o swyddi, a swyddi gwell, drwy economi gryfach a thecach, gwella a diwygio gwasanaethau cyhoeddus, a chreu Cymru unedig, gysylltiedig a chynaliadwy. Y portffolio Sgiliau a Gwyddoniaeth sy’n gyfrifol am ddatblygu nifer o’r blaenoriaethau hyn, gan gynnwys 100,000 o leoedd prentisiaeth a darparu band eang i bawb.

 

8.0   Monitro a Gwerthuso’r Gyllideb

 

8.1 Monitro’r Gyllideb

 

Mae pob maes gwariant yn cael ei herio’n fisol ac mae swyddogion yn cynnal adolygiadau manwl chwarterol i ystyried y rhagolygon diweddaraf a chytuno ar symudiadau cyllidebol os bydd angen.  Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith a’r Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth yn derbyn adroddiadau ariannol rheolaidd ar y portffolio i sicrhau bod y gyllideb yn parhau ar y trywydd cywir i gyflawni’r blaenoriaethau i Gymru.

 

8.2 Gwerthuso

 

Mae’r angen am werthusiad, a chwmpas gwerthusiad, yn cael ei ystyried ar sail achosion unigol yn ystod y gwaith o ddatblygu polisïau a rhaglenni, gan roi ystyriaeth briodol i’r risg, maint a graddfa, y dystiolaeth bresennol a ffactorau eraill. Cynhelir gwerthusiadau o brosiectau a rhaglenni yn ystod prosiectau ac ar ôl eu cwblhau ac mae’n bosibl eu cynnal yn fewnol neu gan gontractwyr allanol, yn dibynnu ar y lefel o arbenigedd ac annibyniaeth sy’n ofynnol.

Mae comisiynu gwerthusiadau a gwaith ymchwil yn un ffordd o gasglu tystiolaeth ar bolisïau a rhaglenni, ond nid dyma’r unig ffordd ac yn aml nid y ffordd fwyaf priodol. Felly, mae’r portffolio yn defnyddio nifer o ddulliau gwahanol i hysbysu’r broses drwy gyngor arbenigol a dysgu. Er enghraifft, weithiau mae’r dystiolaeth bresennol yn cael ei defnyddio i lunio rhaglenni a pholisïau ac nid oes angen cynhyrchu tystiolaeth newydd bob tro, na dadl gwerth am arian dda dros wneud hynny.


Mae astudiaethau dichonoldeb yn cael eu cynnal yn aml ar ddechrau rhai prosiectau, i asesu eu haddasrwydd o ran eu datblygu. Cynhelir adolygiadau porth ar gyfer prosiectau mwy er mwyn asesu gwerth am arian a gellid cynnal archwiliadau mewnol ac allanol, sy’n darparu tystiolaeth bellach i gefnogi canlyniadau polisi.

 

Mae canlyniadau a pherfformiad pob prosiect a chontract sy’n cael eu rheoli o fewn y portffolio yn cael eu monitro’n barhaus.

 

 

9.0   Gwariant Ataliol

 

Mae’r gyllideb gyfan ar gyfer Gwyddoniaeth a Sgiliau yn ceisio atgyfnerthu’r amodau a fydd yn galluogi busnesau i greu swyddi a thwf economaidd cynaliadwy. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn hollbwysig i’n gweledigaeth o sicrhau bod Cymru yn dod yn gymdeithas fwy ffyniannus, cydnerth, iachach, tecach a mwy cyfartal.

 

Mae’r dull gweithredu ar sail atal er mwyn atal problemau rhag digwydd neu waethygu wedi parhau i ategu pob un o’n penderfyniadau. Mae tystiolaeth i ddangos mai gwaith cyflogedig da yw’r llwybr gorau allan o dlodi a’r amddiffyniad mwyaf rhag tlodi i’r rhai sy’n wynebu risg. Rydym yn parhau i greu cyfleoedd i unigolion a theuluoedd gyda mentrau a buddsoddiadau wedi’u targedu ar hyd a lled Cymru.

 

Wrth gyflawni canlyniadau gwell, mae mesurau gwariant ataliol yn bwysig ar gyfer y tymor hir. Mae’n bosibl priodoli’r mwyafrif o wariant y portffolio Sgiliau a Gwyddoniaeth i wariant ataliol. Er enghraifft, ystyrir bod cyllideb gyfan Dysgu Seiliedig ar Waith yn ataliol. Y rheswm am hyn yw mai nod y gyllideb yw darparu cyfleoedd dysgu i alluogi pobl i gynyddu eu lefelau sgiliau ac felly, sicrhau cyflogaeth neu wella eu rhagolygon cyflogaeth. Mae’r rhaglen yn helpu i gadw’r lefelau diweithdra yn isel, gan leihau dibyniaeth ar fudd-daliadau’r wladwriaeth. Mae gwaith ymchwil yn dangos bod y bobl hynny sy’n cyflawni cymhwyster Lefel 3 mewn sgiliau busnes ac yn y blaen (neu uwch) yn gwella eu rhagolygon bywyd ac yn gwella uchelgeisiau unigol.

 

Hefyd, cynlluniwyd ein rhaglenni cyflogaeth a sgiliau i fynd i’r afael â materion sgiliau a chyflogadwyedd gyda’r nod o helpu unigolion i gael mynediad i’r gweithle, aros yn gweithle a gwneud cynnydd ynddo. Maent hefyd yn darparu cyngor a chymorth angenrheidiol i gyflogwyr ar sut i ehangu a datblygu eu busnesau yn ogystal â chynnal maint eu trosiant a’u helw.

 

Mae’r rhaglenni hyn sy’n targedu unigolion di-waith yn cael effaith arwyddocaol ar wariant ataliol, oherwydd ceir elw net trysorlys am bob unigolyn sy’n sicrhau cyflogaeth ac sy’n gadael y gofrestr diweithdra. Hefyd, ar ôl sicrhau cyflogaeth, bydd gostyngiad yn y galw am fudd-daliadau ategol.

 

Lleihau anghydraddoldeb o ran canlyniadau addysgol rhwng gwahanol grwpiau yw un o’r prif amcanion yr ydym yn ceisio eu cyflawni. Yn y tymor canolig i’r tymor hwy, bydd hyn yn arwain plant a phobl ifanc allan o dlodi, yn lleihau’r tebygolrwydd na fyddant mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant (NEET) neu’n ymuno â’r system cyfiawnder ieuenctid, ac yn rhoi’r cyfle gorau posibl iddynt gael canlyniadau iechyd a bywyd gwell. Mae nifer o’n rhaglenni wedi’u creu ar sail anghenion pobl ifanc ac atebolrwydd asiantaethau gwahanol, sy’n atgyfnerthu ac yn cyflawni canlyniadau gwell i’r grŵp hwn.

 

 

10.0Effaith Gadael yr UE ar Brydain

 

Mae’r portffolio Sgiliau a Gwyddoniaeth yn rheoli cyfanswm o 20 o brosiectau sy’n cael eu hariannu gan yr UE, gyda chyfanswm o £646 miliwn ar gyfer y prosiectau. Rydym yn anelu at ddefnyddio £252 miliwn o gyllid yr UE hyd at 2021 a defnyddio arian cyfatebol Llywodraeth Cymru (yn amodol ar gymeradwyaeth cyllidebau yn y dyfodol) o £394 miliwn.

 

Yn rhan Sgiliau y portffolio, ceir 9 prosiect refeniw Cronfa Gymdeithasol Ewrop sy’n rhan o’r cylch Cyllido newydd ar gyfer 2014-2020, gan gynnwys ReAct, Prentisiaethau, Hyfforddiaethau a Thwf Swyddi Cymru. Gwerth cyllid Cronfa Gymdeithasol Ewrop sydd wedi’i chymeradwyo hyd yma yw tua £150 miliwn, a disgwylir i hyn gynyddu i tua £190 miliwn yn unol â’r cytundebau pontio gyda WEFO rhwng rhaglenni cyllid 2007-2014 a 2014-20. Disgwylir i’r prosiectau hyn gefnogi tua 137,000 o gyfranogwyr.

 

Mae dau brosiect cyfalaf Seilwaith yr UE i helpu i gyflawni’r agenda band eang. Mae yna dri phrosiect Gwyddoniaeth yr UE o dan raglen refeniw SÊR Cymru a chwe phrosiect Arloesi yr UE, sy’n cynnwys cymysgedd o ofynion cyfalaf a refeniw.

 

Mae gwarant gan Drysorlys y DU ar gyllido’r Cronfeydd Strwythurol presennol a rhaglenni eraill yr UE yn cyflawni ein gofynion cyllido yn rhannol ond byddwn yn parhau i ymdrechu i sicrhau na fydd Cymru yn colli ceiniog o’r cyllid mae’n ei dderbyn yn awr gan yr UE a chyllid yn y dyfodol a fyddai wedi’i ragweld.

 

 

11.0Costau Deddfwriaeth

 

Mae costau deddfwriaethau a ddygwyd ymlaen sy’n cael effaith ar y portffolio wedi’u disgrifio yn adran 11.1 i 11.3 isod.

 

11.1Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

 

Amcan Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, nawr ac yn y dyfodol. Bydd y Ddeddf yn golygu bod polisïau yn cael eu darparu mewn ffordd gynaliadwy ac yn gwneud i’r cyrff cyhoeddus rhestredig (gan gynnwys Llywodraeth Cymru) feddwl mwy am y tymor hwy, gweithio’n well gyda phobl, cymunedau a’i gilydd, ceisio atal problemau, a mabwysiadu agwedd fwy gydgysylltiedig.

 

Drwy sefydlu un fframwaith cyfreithiol rhwymol, mae’r Ddeddf yn darparu dull o fynd i’r afael yn uniongyrchol â’r gorgymhlethdod a nodwyd gan y Comisiwn Gwasanaethau Cyhoeddus a bydd yn darparu ffordd o ddatblygu ein capasiti i gyflawni yn y dyfodol. Wrth gynllunio’r Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2017/18, rydym wedi manteisio ar y cyfle i edrych i’r dyfodol er mwyn targedu buddsoddiadau mewn canlyniadau cynaliadwy a mabwysiadu’r pum ffordd allweddol o weithio a sefydlwyd gan y Ddeddf a chydbwyso effeithiau hirdymor posibl ein penderfyniadau yn erbyn ein hanghenion tymor byr.

 

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn rhoi dyletswydd ar Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill i wireddu’r saith nod llesiant a nodwyd yn y Ddeddf. Mae gofyniad hefyd i ddangos tystiolaeth y defnyddir y pum egwyddor datblygu cynaliadwy i gyflawni’r nodau.

 

Mae’r portffolio Sgiliau a Gwyddoniaeth eisoes yn cynllunio llawer o’i weithgareddau gweithredol er mwyn sicrhau eu bod yn parchu’r gofynion hyn. Mae gwaith yn mynd rhagddo i adolygu a mireinio rhaglenni a gweithgareddau i sicrhau ein bod yn cyflawni ein rhwymeidgaethau o dan y Ddeddf.

 

Y canlyniadau a ragwelir yw y bydd gan bob rhan o gymdeithas y sgiliau cywir i gael mynediad i wasanaethau (iechyd ac addysg), cyflogaeth, a hamdden sydd eu hangen ar bobl.

 

11.2Bil Cymru

 

Ni ragwelir y bydd Bil Cymru yn dod i rym tan fis Ebrill 2018 ac ni fydd unrhyw oblygiadau ariannol ar gyfer y portffolio hwn yn 2017/18, ac eithrio’r adnoddau staff sydd eu hangen i baratoi ar gyfer cyflawni’r swyddogaethau newydd.

 

11.3Deddfwriaethau Llywodraeth y DU

 

Mae nifer o filiau Llywodraeth y DU sy’n cael eu hystyried nawr, a allai gael effaith ar feysydd polisi sydd wedi’u datganoli yng Nghymru pan ddônt i rym. Mae’r rhain yn cynnwys Bil Addysg Uwch ac Ymchwil a Deddf yr Economi Ddigidol.

 

 

12.0Gwariant Cyfalaf

 

Mae hyn yn cael ei drafod yn yr adrannau uchod.

 

13.0Ystyriaethau Trawsbynciol

 

Mae’r Asesiad Effaith Integredig ar gyfer Prif Grŵp Gwariant yr Economi a’r Seilwaith, sy’n cynnwys y portffolio Sgiliau a Gwyddoniaeth, wedi’i atodi yn Atodiad C y papur tystiolaeth hwn.

 

Mae’r asesiad yn cwmpasu effaith cydraddoldeb ein penderfyniadau gwariant ar y nodweddion gwarchodedig, ynghyd â’r effaith ar y Gymraeg, Hawliau’r Plentyn, Trechu Tlodi, sy’n dod ynghyd o dan yr ambarél llesiant, fel y’i nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Rydym wedi sicrhau bod polisïau a rhaglenni yn adlewyrchu ein hymrwymiad i gynaliadwyedd, drwy ystyried buddsoddiadau y gallwn eu gwneud yn awr er mwyn atal camau gweithredu drutach yn y dyfodol.

 

O dan Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, rydym wedi rhoi ystyriaeth gytbwys i’r hawliau a nodir yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Nid oes Asesiad ar wahân o’r Effaith ar Hawliau Plant ar gyfer Cyllideb Ddrafft gyffredinol 2017/18 ac ar gyfer MEG yr Economi a’r Seilwaith wedi’u cyhoeddi ar wahân, ond maent yn ffurfio rhan o’r Asesiad Effaith Integredig hwn.

 

14.0Meysydd Penodol – Ymchwil a Gwerthusiad Gwyddonol

 

Trosolwg o’r Polisi a’r Strategaeth

 

Mae Gwyddoniaeth yng Nghymru o safon uchel, ond nid oes gan Gymru ddigon o wyddonwyr. Amcangyfrifir bod diffyg o 600 o ymchwilwyr mewn meysydd sy’n hollbwysig i ddatblygiad economi Cymru, gan gynnwys meddygaeth glinigol, peirianneg, mathemateg a ffiseg, TGCh a’r gwyddorau cymdeithasol cymhwysol. Mae Rhaglen Sêr Cymru 2 yn ceisio unioni hyn drwy ddenu gwyddonwyr i Gymru fel Uwch Gymrodyr a Chymrodyr Iau drwy gynllun cymrodoriaeth Marie Skłodowska-Curie Actions COFUND a chais am gymorth gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop. Bydd y cyllidwyr a fydd yn darparu arian cyfatebol yn cynnwys: Yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, Prifysgolion, Diwydiant ac Elusennau.

 

 

14.1Cyllid ar gyfer polisi gwyddoniaeth

 

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid ar gyfer y polisi gwyddoniaeth yng Nghymru.  Mae’r cyllidebau craidd yn talu arian cyfatebol ar gyfer prosiectau Ewropeaidd fel a ganlyn:

 

Cymrodoriaethau Ymchwil Marie Skłodowska-Curie Actions COFUND.

Bydd Cymrodoriaethau Ymchwil yn cael eu targedu ar gyfer ymgeiswyr nodedig; 3-5 mlynedd ar ôl gradd doethuriaeth, o unrhyw le y tu allan i’r DU i ddod i weithio yng Nghymru. Rydym yn ceisio cefnogi tua 90 o gymrodorion am gyfnod o tua thair blynedd. Cyfanswm gwerth y grant hwn yw €24.1 miliwn (gyda €9.5 miliwn gan y Comisiwn Ewropeaidd).

 

Rydym wedi sicrhau cefnogaeth Cronfeydd Strwythurol yr UE ar gyfer rhaglen Sêr Cymru II.  Mae’r cynnig hwn wedi’i ddisgrifio fel prosiect ‘asgwrn cefn’ ar gyfer WEFO, gyda chyfanswm gwerth o £39 miliwn (£23 miliwn o Gronfeydd Strwythurol). Bydd y prosiect yn cynnwys y ddau fath canlynol o gymrodoriaeth:

 

·         Bydd cymrodoriaeth ‘Seren y Dyfodol’ yn swyddi uchel eu bri a chystadleuol iawn, wedi’u cynllunio i ddenu ‘sêr gorau'r dyfodol’ o feysydd ymchwil academaidd. Rydym yn bwriadu hwyluso tua 26 o becynnau cymrodoriaeth pum mlynedd sêr y dyfodol, pob un yn derbyn cyllid o £0.2 miliwn y flwyddyn.

 

·         Cynlluniwyd Cymrodoriaethau Ymchwil cynllun ‘Cymrodoriaethau Cymru’ ar gyfer Ymgeiswyr serol, 3-5 mlynedd ar ôl gradd ddoethuriaeth, o unrhyw le yn y byd yn cynnwys y DU i ddod i weithio i Gymru. Rydym yn anelu at gefnogi tua 30 o gymrodoriaethau tua thair blynedd o hyd.

 

Mae hyn yn ychwanegol at gynllun presennol £30 miliwn Sêr Cymru 1.

 

 

14.2      Gwyddoniaeth i Gymru, rhaglenni Sêr Cymru a hybu sgiliau STEM.

 

Mae addysg ffurfiol mewn pynciau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) (cwricwlwm, asesu a chymwysterau a hyfforddiant a datblygiad athrawon) yn faterion i’r Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg.

 

Ym mis Mawrth 2016, cyhoeddwyd cynllun cyflenwi Addysg a Hyfforddiant STEM, yn dangos sut y bydd y pynciau hyn yn cael eu cefnogi ar gyfer disgyblion a myfyrwyr 3 i 19 oed. Mae grŵp mewnol, wedi’i gadeirio gan ein Prif Gynghorydd Gwyddonol, yn goruchwylio’r gwaith o ddatblygu hyn.

 

 

15.0Meysydd penodol - Sgiliau

 

15.1Cymorth i helpu pobl i gael gwaith, gan gynnwys Twf Swyddi Cymru

 

Darperir cymorth i helpu pobl i gael gwaith drwy nifer o raglenni a gwasanaethau cyflogadwyedd oedolion, sy’n cynnwys:

 

·       ReAct

·       Y Rhaglen Sgiliau Cyflogadwyedd

·       Twf Swyddi Cymru

·       Hyfforddiaethau

·       Porth Sgiliau


Cynlluniwyd y rhaglen ReAct i ategu’r gwasanaeth sy’n cael ei gynnig i weithwyr di-waith gan y Ganolfan Byd Gwaith a Twf Cymru drwy gyfres o fesurau a gynlluniwyd i ddileu’r rhwystrau o ran sicrhau cyflogaeth. Mae’r rhaglen ReAct yn cael ei hariannu’n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

 

Mae’r Rhaglen Sgiliau Cyflogadwyedd yn adlewyrchu dull cyflawni gwahanol, gyda mwy o ffocws ar leoliad gwaith a pharhad cymorth ar ôl i unigolyn ddod o hyd i waith. Cynnwys craidd y rhaglen yw lleoliad gwaith o ansawdd uchel neu hyfforddiant gyda chyflogwr penodol, sy’n cael ei gyfuno gyda hyfforddiant i baratoi ar gyfer gwaith a darparu sgiliau hanfodol. Bydd y rhaglen yn herio rhwydwaith darparwyr Cymru i gyflawni mewn ffyrdd gwahanol, creu cysylltiadau agosach gyda chyflogwyr, gyda’r nod o ddarparu canlyniadau cyflogaeth gynaliadwy i gyfranogwyr.

 

Mae Twf Swyddi Cymru yn darparu cyfle swydd i bobl ifanc ddi-waith am gyfnod o chwe mis gyda chyflog ar lefel yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu uwch, am o leiaf 25 awr yr wythnos.

 

Mae Hyfforddiaethau, Rhaglen Hyfforddiaethau flaenllaw Llywodraeth Cymru yn rhaglen hyfforddiant statws anghyflogedig ar gyfer pobl ifanc 16-18 oed nad ydynt wedi ymgysylltu ag addysg ôl-16 neu gyflogaeth. Mae’r rhaglen yn cynnig tri llwybr neu dair elfen ddiffiniedig:

 

·           Opsiwn hyfforddiant ‘Ymgysylltu’ lefel mynediad i ddysgwyr sydd angen cadarnhau ffocws galwedigaethol;

 

·           Opsiwn hyfforddiant Lefel 1 ar gyfer y dysgwyr hynny sydd â ffocws galwedigaethol ac sy’n gallu dilyn rhaglen ddysgu ar Lefel Cymhwyster Cenedlaethol (NVQ) 1 neu gymhwyster cyfatebol;

 

·           Opsiwn hyfforddiant Lefel 2 (a elwir yn Bont at Waith) sy’n ceisio cysylltu pobl ifanc sy’n barod am waith, sydd wedi cwblhau’r dysgu Lefel 1 (fel uchod) ac sy’n parhau i fod yn gymwys ar gyfer y rhaglen Hyfforddiaethau, ond nad ydynt wedi sicrhau cyflogaeth neu ddysgu pellach ar lefel uwch.

 

 

Mae’r rhaglen Porth Sgiliau yn darparu system ymgysylltu, asesu a chyfeirio sy’n darparu gwasanaeth di-dor i fusnesau ac unigolion sy’n chwilio am gymorth sgiliau yng Nghymru.

 

Rydym yn gweithio ar raglen cyflogadwyedd newydd ar gyfer pobl o bob oedran yn 2018 i gynorthwyo unigolion o bob oedran i ddod o hyd i swyddi o ansawdd uchel. Rydym yn awyddus i’r cymorth hwn gael ei deilwra i anghenion unigol a, lle y bo’n briodol, ei alinio â chyfleoedd swyddi sy’n dod i’r amlwg mewn cymunedau lleol. Ein nod yw uno gweithgareddau o’n prif raglenni cyflogadwyedd - Twf Swyddi Cymru, ReAct, Hyfforddiaethau a’n Rhaglen Sgiliau Cyflogadwyedd newydd - mewn un rhaglen cymorth cyflogadwyedd unigol, a fydd yn cyflawni anghenion y bobl sydd angen cymorth i sicrhau, cadw a gwneud cynnydd mewn gwaith.

 

Mae’r rhaglen newydd yn cael ei datblygu gan ddefnyddio’r dystiolaeth a’r ymchwil diweddaraf i gyflawni rhaglenni effeithiol y farchnad lafur. Bydd yn cael ei hysbysu gan werthusiadau gan Raglenni Barod am Waith, Twf Swyddi Cymru a ReAct, cynlluniau peilot Amodoldeb Sgiliau a gynhaliwyd gennym ni gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau, a’r gwerthusiad a’r adolygiad o’r Hyfforddiaethau.

 

 

15.2      Cymorth penodol ar gyfer pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET)

 

Y Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid yw un o brif ysgogwyr Llywodraeth Cymru ar gyfer lleihau nifer y bobl ifanc 16-18 oed sy’n NEET neu sy’n wynebu’r risg o fod yn NEET. Gwnaed cynnydd cadarnhaol ers ei lansio ym mis Hydref 2013. Elfen allweddol o’i lwyddiant yw’r broses gynnar o nodi ac olrhain cynnydd pobl ifanc sy’n wynebu’r risg o ddod yn NEET.  Er bod y cam cyflwyno dwy flynedd wedi dod i ben, nid yw hyn yn golygu diwedd y Fframwaith o bell ffordd. Mae’n cymryd amser i systemau fwrw gwreiddiau ac mae’r Fframwaith yn creu newid diwylliannol o fewn awdurdodau lleol.

Rydym yn parhau i gynorthwyo awdurdodau lleol i ddatblygu strwythurau a systemau ar lefel leol i adeiladu ar y gwaith da a wnaed hyd yma. Mae ein cymorth yn canolbwyntio ar gasglu a dadansoddi data a chydlynu’r Fframwaith gyda meysydd blaenoriaeth allweddol eraill a rhwng ystod eang o bartneriaid. Rydym yn defnyddio dull gweithredu sydd wedi’i dargedu’n well, i ganolbwyntio ar grwpiau anoddach eu cyrraedd a grwpiau sy’n fwy agored i niwed, er enghraifft Plant sy’n Derbyn Gofal, y rhai yn y ddarpariaeth addysgol y tu allan i ysgolion prif ffrwd a phobl ifanc yn y system cyfiawnder ieuenctid.

Fodd bynnag, mae’r hinsawdd economaidd wedi newid ac mae angen i’n cyfres o gymorth cyflogadwyedd ymaddasu i adlewyrchu’r amgylchedd newydd yr ydym yn gweithredu ynddo. Felly, amlinellwyd yn Symud Cymru Ymlaen, fel y nodwyd ym mharagraff 15.1, y byddem yn creu rhaglen gyflogadwyedd newydd i gynorthwyo unigolion o bob oedran i ddod o hyd i swyddi o ansawdd uchel.


Mae newidiadau’n cael eu gwneud i rai o’n rhaglenni presennol i’n galluogi i bontio’n ddidrafferth i’r rhaglen newydd sy’n addas ar gyfer pob oedran. Mae’r newidiadau i Twf Swyddi Cymru yn rhan allweddol o’r cynllun pontio hwn - cafodd y cymhorthdal cyflog ei leihau o 100% i 50% o 1 Awst 2016.

 

Bydd y newidiadau a wneir ar unwaith i Twf Swyddi Cymru II yn sicrhau bod y rhaglen yn parhau i ddiwallu anghenion pobl ifanc sy’n chwilio am waith.

 

15.3      Cymorth i helpu pobl (o bob oedran) i gael gwaith, gan gynnwys y Rhaglen Sgiliau Cyflogadwyedd newydd i Gymru

 

Trafodwyd yn Adran 15.1 uchod.

 

15.4Prentisiaethau a mathau eraill o ddysgu seiliedig ar waith

 

Y prentisiaethau yw ein rhaglen flaenllaw o hyd. Maent wedi profi eu bod yn effeithiol yn y farchnad ac maent yn cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr a phrentisiaid, gyda chyfraddau cwblhau’r fframwaith yn parhau i fod yn gyson uchel ar lefel uwch nag 80 y cant. Yn 2014/15 dechreuodd mwy na 19,500 o brentisiaid ar raglenni dysgu newydd a dechreuodd mwy na 44,000 o brentisiaid ar hyfforddiant. Rydym yn awyddus i ymgysylltu gyda mwy o gyflogwyr i gyflogi prentisiaid yn y dyfodol, gan gydnabod mai dim ond 13% o gyflogwyr yng Nghymru sy’n ymwneud â phrentisiaethau ar hyn o bryd.

 

Elfen ganolog o’n gwaith cynllunio yw’r gwaith i sicrhau bod 100,000 o brentisiaethau sy’n addas i bob oedran ar gael yn ystod tymor presennol y Cynulliad. Bydd yr ymrwymiad hwn yn ceisio sicrhau ein bod yn gallu cyfateb y sgiliau mae pobl yn eu meithrin drwy’r brentisiaeth gyda’r sgiliau sydd eu hangen ar yr economi. Byddwn hefyd yn ceisio ymestyn cwmpas prentisiaethau, yn arbennig mewn sectorau twf ac mewn sectorau lle bydd cyfleoedd swyddi yn dod i’r amlwg yn y dyfodol, yn ogystal â datblygu ein gwaith i ddarparu prentisiaethau Lefel Uwch.

 

Byddwn hefyd yn parhau gyda’n hymdrechion i sicrhau eglurder gan Lywodraeth y DU ar effaith eu Hardoll Prentisiaeth ar Gymru. Mae rhai materion trawsffiniol a chyllido sy’n parhau’n aneglur.

 

I adlewyrchu ein hymrwymiad cadarn i brentisiaethau, mae ein blaenoriaethau cyflawni ar gyfer 2016 i 2021 yn cynnwys:

·           cryfhau ymgysylltiad cyflogwyr gyda dysgu drwy brentisiaethau;

·           cynyddu nifer y bobl ifanc 16-19 oed sy’n ymgymryd â phrentisiaethau a chynyddu nifer y disgyblion sy’n gadael yr ysgol ac sy’n symud i brentisiaethau o ansawdd uchel;

·           ymestyn cwmpas prentisiaethau, yn arbennig mewn sectorau twf a chategorïau swyddi sy’n dod i’r amlwg, yn unol â’r blaenoriaethau hynny sy’n cael eu pennu gan Bartneriaethau Sgiliau Rhanbarthol;

·           datblygu sgiliau lefel uwch drwy ganolbwyntio ar brentisiaethau lefel 3 ac uwch lle mae’r canlyniadau yn dueddol o fod yn well, gan gynnwys Prentisiaethau Uwch sy’n cefnogi cyfleoedd technegol a phroffesiynol ar Lefel 4 ac uwch, a pharhau'r un pryd gyda’r gostyngiad graddol mewn Prentisiaethau Sylfaen (Lefel 2);

·           gwella’r llwybrau sgiliau hynny sy’n integreiddio prentisiaethau yn y system addysg ehangach, sy’n cynnwys cyfleoedd i weithio’n agos gydag addysg uwch.

 

 

15.5Datblygu sgiliau’r gweithlu

Roedd y Datganiad Polisi ar Sgiliau (Ionawr 2014) yn cyflwyno gweledigaeth ar gyfer polisi cyflogaeth a sgiliau yng Nghymru dros y 10 mlynedd nesaf a’r camau gweithredu cyfrifol y mae angen i bob rhanddeiliad eu cymryd i ddatblygu system sgiliau ôl-19 gydnerth, ymatebol a chynaliadwy. Roedd hefyd yn amlygu’r dewisiadau anodd sy’n ein hwynebu, os yw Cymru am ddarparu’r sgiliau sydd eu hangen i godi lefelau cynhyrchiant a lleihau’r rhwystrau i gyflogaeth.

Er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni ein huchelgais o greu system sgiliau gystadleuol a chynaliadwy yng Nghymru, byddwn yn parhau i ddatblygu dulliau gweithredu sy’n rhoi sylfaen i unigolion wneud cynnydd i mewn i waith neu ddysgu pellach a sgiliau uwch ac, i gyflogwyr, byddwn yn parhau i geisio ymgysylltu â hwy a’u hannog i fuddsoddi mewn sgiliau a hyfforddiant. I’r perwyl hwn, bydd y Fframwaith ar gyfer Buddsoddi ar y Cyd mewn Sgiliau (Tachwedd 2014) yn cael ei ddiweddaru i adlewyrchu’r ymrwymiadau a nodwyd yn Symud Cymru Ymlaen.

Rhagwelir y bydd sgiliau a dysgu ôl-16 yn nodweddion hollbwysig ym mhob un o’r pedair strategaeth drawsbynciol yn Symud Cymru Ymlaen, ar gyfer cyflawni twf economaidd, creu swyddi a threchu tlodi.

 

15.6      Polisi sgiliau yn cynnwys: Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol, polisïau sgiliau sector a Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau Cymru

 

Bydd cyflawni sgiliau rhanbarthol yn parhau i fod yn ffocws polisi allweddol yn y dyfodol, ond mae’n rhan o agenda sy’n datblygu yng nghyd-destun tirlun sgiliau rhanbarthol sydd wedi’i gryfhau a’i ysgogi gan Lywodraeth y DU.

 

Bydd y cynlluniau cyflogaeth a sgiliau rhanbarthol blynyddol sy’n cael eu llunio gan y Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol yn parhau i lywio penderfyniadau cynllunio i ddarparwyr a chynnig sylfaen dystiolaeth hollbwysig ar gyfer gwneud penderfyniadau ar fuddsoddi mewn sgiliau yn y dyfodol.  Bydd y dull gweithredu hwn hefyd yn galluogi Llywodraeth Cymru i gyfateb sgiliau rhanbarthol a chyfleoedd buddsoddi a thwf, gan gynnwys y blaenoriaethau a nodwyd gan yr Ardaloedd Menter, Dinas-ranbarthau a chydweithrediadau trawsffiniol arfaethedig.

 

 

 

16.0Meysydd penodol – Darpariaeth Ddigidol

 

16.1      Seilwaith Digidol (gan gynnwys Cyflymu Cymru, Mynediad i Fand Eang Cymru ac ysgogi galw)

 

Rydym yn darparu seilwaith digidol drwy nifer o brosiectau a chynlluniau sy’n anelu at wella cysylltedd i eiddo preswyl, busnesau o bob maint a gwasanaethau cyhoeddus. Disgrifir y prosiectau hyn yn adran 6 uchod.

 

 

16.2Trawsnewid gwasanaethau digidol ar gyfer sector cyhoeddus Cymru

 

Mae dull gweithredu Llywodraeth Cymru o ysgogi trawsnewidiad digidol ar draws y sector cyhoeddus wedi’i gyflwyno yn ‘Digidol yn Gyntaf’ a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2015. Mae ‘Digidol yn Gyntaf’ yn cael ei gefnogi gan strategaethau digidol sectorau penodol, er enghraifft ‘Iechyd a gofal gwybodus - strategaeth iechyd a gofal cymdeithasol digidol ar gyfer Cymru’ a gyhoeddwyd y llynedd yn y Strategaeth Ddigidol ar gyfer Addysg.

 

Darperir arweinyddiaeth ar gyfer Digidol yn Gyntaf drwy’r grŵp Digidol a Data (yr hen Weithgor Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol) ac mae’n cael ei gadeirio gan y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth. Mae’r grŵp hwn hefyd yn darparu arweinyddiaeth ac yn llywio Cynllun Gweithredi Digidol Llywodraeth Cymru ei hun.

 

16.3Cynhwysiant Digidol

 

Mae’r Fframwaith Strategol Cynhwysiant Digidol ar gyfer Cymru a’r Cynllun Cyflenwi a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2016, yn cyflwyno ein hymrwymiad parhaus i ddarparu arweinyddiaeth strategol er mwyn helpu i fynd i’r afael ag allgáu digidol. Mae’n adlewyrchu’r heriau y mae Llywodraeth Cymru a’i phartneriaid yn parhau i’w hwynebu wrth geisio annog mwy o bobl i gael y budd mwyaf o’r cyfleoedd y gall technolegau digidol eu cynnig, sy’n gallu newid bywydau. Mae Symud Cymru Ymlaen yn nodi ymrwymiad uchelgeisiol i helpu 95% o bobl i feithrin y sgiliau digidol sylfaenol sydd eu hangen ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain erbyn 2021.

 



 

ATODIAD A

Tablau Manwl Llinellau Gwariant yn y Gyllideb (BEL)

 

Strwythur Adrannol

 

REFENIW

2017/18

2017/18

GRŴP

MAES RHAGLENNI GWARIANT

CAM GWEITHREDU

BEL

Enw’r BEL

Llinell Sylfaen Ddiwygiedig £'000

Cyllideb Ddrafft £'000

Sectorau

Sectorau

3764

Gwyddorau Bywyd

2,896

2,896

 

Gwyddoniaeth ar Arloesi

Arloesi

3742

Arloesedd Busnes

1,520

1,520

 

3744

Canolfannau Arloesi a Chyfleusterau Ymchwil a Datblygu

2,553

2,553

 

3746

Cydweithio rhwng y Byd Academaidd a Busnes

1,646

1,646

 

 

Cyfanswm Arloesi

5,719

5,719

 

Gwyddoniaeth

3745

Gwyddoniaeth

4,795

4,795

 

Sgiliau

 

 

 

 

Dysgu Seiliedig ar Waith

4762

Dysgu Seiliedig ar Waith

111,308

111,308

 

Cymorth Cyflawni - Sgiliau

4750

Sgiliau Marchnata

648

648

 

Polisi Sgiliau

4759

Polisi Sgiliau ac Ymgysylltu

1,261

1,061

 

Cyflogaeth a Sgiliau

4464

Cyflogaeth a Sgiliau

28,658

28,858

 

Cyfanswm Sgiliau

 

141,875

141,875

 

Seilwaith

Darparu Seilwaith TGCh

1084

Cynhwysiant Digidol

1,250

1,250

 

3822

Prosiect Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus

5,740

5,740

 

3860

Gweithrediadau Seilwaith TGCh

2,051

2,027

 

Cyfanswm Darparu Seilwaith TGCh

 

 

9,041

9,017

Cyfanswm

Refeniw

 

 

 

 

164,326

164,302

 

 

Strwythur Adrannol

 

CYFALAF

2016/17

2017/18

2018/19

2019/20

2020/21

Cyfanswm

GRŴP

MAES RHAGLENNI GWARIANT

CAM GWEITHREDU

LLINELL WARIANT YN Y GYLLIDEB

Enw’r Llinell Wariant yn y Gyllideb

Cyllideb Cefnogi Cymunedau yn Gyntaf £'000

Cyllideb Ddrafft £'000

£’000

£’000

£’000

£’000

Cyfalaf Traddodiadol

Sectorau a Busnes

Sectorau a Busnes

Sectorau

3764

Gwyddorau Bywyd

6,855

9,711

3,605

2,000

1,000

16,316

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Gwyddoniaeth ac Arloesi

Arloesi

3746

Cydweithio rhwng y Byd Academaidd a Busnes

3,062

11,739

62

62

62

11,925

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Gwyddoniaeth

3745

Gwyddoniaeth

2,479

871

539

0

0

1,410

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Seilwaith

Darparu Seilwaith TGCh

3860

Seilwaith TGCh

16,304

20,550

7,500

1,500

19,500

49,050

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

21,845

33,160

8,101

1,562

19,562

62,385

 

 

 

 

Cyfanswm Cyfalaf Traddodiadol

28,700

42,871

11,706

3,562

20,562

78,701


 

ATODIAD B

CYSONIAD O’R GYLLIDEB ATODOL I’R GYLLIDEB LLINELL SYLFAEN

 

 

 

 

Cyllideb Atodol 2016/17 £'000

Symudiad £'000

Cyllideb Llinell Sylfaen 2017/18 £'000

Maes Rhaglenni Gwariant

Cam Gweithredu

Llinell Wariant yn y Gyllideb

 

 

 

Sectorau a Busnes

Sectorau

Gwyddorau Bywyd

2,896

 

2,896

Gwyddoniaeth ac Arloesi

Arloesi

Arloesi Busnes

1,520

 

1,520

Canolfannau Arloesi a Chyfleusterau Ymchwil a Datblygu

2,553

 

2,553

Cydweithio rhwng y Byd Academaidd a Busnes

1,646

 

1,646

Gwyddoniaeth

Gwyddoniaeth

4,795

 

4,795

Sgiliau

Dysgu Seiliedig ar Waith

Dysgu Seiliedig ar Waith

111,308

 

111,308

Cymorth Cyflawni - Sgiliau

Sgiliau Marchnata

648

 

648

Polisi Sgiliau

Polisi Sgiliau ac Ymgysylltu

1,261

0

1,261

Cyflogaeth a Sgiliau

Cyflogaeth a Sgiliau

32,148

-3,490

28,658

Seilwaith

Darparu Seilwaith TGCh

Cynhwysiant Digidol

1,250

 

1,250

Prosiect Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus

4,740

1,000

5,740

Gweithrediadau Seilwaith TGCh

2,051

 

2,051

166,816

-2,490

164,326

Sectorau a Busnes

Sectorau

Gwyddorau Bywyd

6,855

 

6,855

Gwyddoniaeth ac Arloesi

Arloesi

Cydweithio rhwng y Byd Academaidd a Busnes

3,062

 

3,062

Gwyddoniaeth

Gwyddoniaeth

2,479

 

2,479

Seilwaith

Darparu Seilwaith TGCh

Gweithrediadau Seilwaith TGCh

16,304

 

16,304

28,700

0

28,700

Seilwaith

Darparu Seilwaith TGCh

Gweithrediadau Seilwaith TGCh

1,309

 

1,309

1,309

0

1,309

196,825

-2,490

194,335



 

 

Atodiad C

 

Asesiad Effaith Integredig Strategol

 

Trosolwg

 

Mae cynllun gwariant y portffolio yn y dyfodol yn canolbwyntio ar ein blaenoriaethau o greu economi gryfach a thecach sy’n cyflawni twf economaidd cynaliadwy a swyddi a chyfleoedd i bobl ar draws Cymru gyfan.

 

Gyda chyfraddau cyflogaeth a mewnfuddsoddi uwch nac erioed, a chyfradd ddiweithdra is na gweddill y DU gyfan, mae’r seiliau wedi’u gosod i gyflawni yn erbyn yr heriau a’r cyfleoedd o’n blaenau. Rydym yn datblygu ystod o weithgareddau sydd wedi’u targedu’n dda i gefnogi mynediad cynhwysol at swyddi a chyfleoedd i sicrhau bod unigolion yn gallu elwa ar dwf economaidd a chynnwys camau gweithredu i drechu tlodi a hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth.

 

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) (“y Ddeddf”) wedi darparu’r fframwaith ar gyfer datblygu’r cynllun ac rydym wedi mabwysiadu safbwynt hirdymor a gwneud ein penderfyniadau mewn modd integredig.

 

Mae datblygiad cynaliadwy wrth wraidd y Ddeddf ac yn egwyddor drefnu ganolog ein cynllun, sy’n sicrhau bod ein penderfyniadau yn ystyried yr amcanion a’r effeithiau cymdeithasol ac economaidd. Wrth wneud hyn, rydym yn mabwysiadu ymagwedd ar gyfer ymgorffori ymgysylltiad, integreiddiad, buddsoddiad hirdymor a mesurau atal yn ein polisïau a’n dulliau cyflawni.

 

Rydym yn gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol i drafod trosglwyddo i economi arloesol, carbon isel, sy’n defnyddio adnoddau’n effeithiol fel dulliau o gyflawni twf a ffyniant economaidd hirdymor. Nid yw’r dull hwn yn disodli datblygiad cynaliadwy; mae’n ei weithredu, yn helpu i ymgorffori amcanion cymdeithasol ac amgylcheddol i’n ffordd o weithio.


Mae’r portffolio yn cydnabod arwyddocâd pwysig yr iaith Gymraeg i economi Cymru a rôl allweddol Safonau’r Gymraeg a’r asesiad o’r effaith ar y Gymraeg yn fframio ein hymagwedd at hybu’r defnydd o’r Gymraeg. Mae’r cynllun yn gwneud y cysylltiadau mewn meysydd gwasanaeth i gynyddu lles economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol.

 

Mae ein cynlluniau hefyd yn rhoi sylw dyledus i ofynion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn a’r gofyniad yng Nghymru i asesu effaith gweithredoedd Gweinidogion ar hawliau plant a phobl ifanc.

 

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn rhoi dyletswydd ar Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill i gymhwyso’r saith nod lles sy’n cael eu nodi yn y Ddeddf a gwneud hynny drwy ddefnyddio ei bum ffordd o weithio.

 

 

Tymor hir

o  Rydym eisoes yn cymryd camau gweithredu sy’n gyson â’n dyletswydd o dan yr egwyddor datblygu cynaliadwy. Er enghraifft, bydd ein buddsoddiad mewn prosiectau seilwaith yn cynnwys Cyflymu Cymru a chefnogi Arloesi yn helpu i greu’r amodau cywir i gynhyrchu ffyniant economaidd i Gymru, heddiw ac yn y tymor hir.

 

Atal

o  Ni allwn fforddio gwastraffu sgiliau a thalentau unrhyw un o’n dinasyddion, yn awr nac yn y dyfodol. Mae tlodi yn niweidio unigolion ac iechyd economaidd a chymdeithasol ein gwlad. Mae creu swyddi a thwf yn elfennau canolog o’n hymdrechion i helpu i drechu tlodi yng Nghymru, ac rydym yn cydnabod mai cyflogaeth sy’n talu’n dda sy’n cynnig y diogelwch gorau rhag tlodi.

o  Rydym yn cymryd camau i hybu’r cyflog byw yng Nghymru, a chefnogi cynnydd at Gymru fwy cyfartal.

 

Integreiddio

o  Mae ein cymorth sgiliau yn hollbwysig er mwyn helpu pobl ifanc yng Nghymru i gael mynediad at gyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant a fydd nid yn unig yn gwella ffyniant economaidd heddiw ac yn y dyfodol, bydd hefyd yn gwella cysylltedd ein cymunedau a chefnogi cynnydd at Gymru fwy cyfartal.

 

Cydweithio

o  Rydym hefyd yn cefnogi mentrau sy’n ceisio annog cadwyni cyflenwi i arloesi a thyfu mewn modd cyfrifol, gan gynnwys tudalennau gwe Busnes Cyfrifol ar wefan Busnes Cymru.

 

Cyfranogi

o  Rydym yn awyddus i gael barn rhanddeiliaid ar hyd a lled Cymru wrth benderfynu ar yr egwyddorion economaidd ar gyfer Cymru. Rydym yn ceisio cynnwys a chydweithio gydag eraill er mwyn inni sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar y pethau sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a pharhaol.

 

 

Trechu tlodi

 

Mae ein rhaglenni a’n prosiectau yn adlewyrchu ymrwymiad hirdymor Llywodraeth Cymru i leihau effaith amddifadedd a thlodi. Rydym yn canolbwyntio ar gynorthwyo i greu a chadw swyddi sy’n galluogi pobl sy’n byw mewn tlodi, neu sy’n wynebu’r risg o dlodi, i ymgysylltu mewn ffordd gadarnhaol gyda’r farchnad lafur, a chydnabod bod swyddi yn diogelu pobl yn gadarn rhag tlodi, ac yn arbennig tlodi parhaus.

 

Mae ein dull gweithredu yn gytbwys, ac yn canolbwyntio ein cymorth sgiliau er enghraifft ar ystod o ddiwydiannau a sectorau gwahanol, er mwyn hybu’r galw am bob math o swyddi. Ein nod yw cefnogi cyfleodd i unigolion medrus iawn, yn ogystal â chyfleoedd lefel mynediad a chynnydd i’r rhai sydd ymhellach o’r farchnad lafur.

 

Mae ein rhaglenni a’n prosiectau hefyd yn helpu i fynd i’r afael â rhai o’r heriau sy’n wynebu pobl wrth geisio cael mynediad at gyflogaeth a hyfforddiant, er mwyn sicrhau bod y bobl sy’n byw mewn tlodi, neu sy’n wynebu’r risg o dlodi, yn gallu elwa o’r cyfleoedd sy’n deillio o dwf economaidd. Mae hyn yn cynnwys cymorth datblygu sgiliau i gymhwyso pobl i fanteisio ar gyfleoedd cyflogaeth, darparu rhwydwaith trafnidiaeth effeithiol a fforddiadwy sy’n galluogi pobl i gael mynediad at swyddi a hyfforddiant, ac ymdrechion i annog arferion cyflogaeth cyfrifol, megis trefniadau gweithio hyblyg sy’n galluogi pobl i weithio o amgylch cyfrifoldebau gofalu, neu gynyddu eu horiau a chynyddu’r cyflogau y gallant eu hennill.

 

Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg

 

Mae gofynion yr iaith Gymraeg yn cael eu hystyried yn gyson ar gyfer rhaglenni a phrosiectau. Mae’r egwyddorion wedi’u hymgorffori yn ein dulliau cyflenwi, er mwyn atgyfnerthu pwysigrwydd y Gymraeg ar gyfer creu amgylchedd busnes sefydlog a ffafriol, hybu sgiliau a buddsoddi mewn seilwaith economaidd, gan gynnwys trafnidiaeth a chyfathrebu.

 

Sgiliau

 

Mae tystiolaeth gref i gefnogi buddsoddi mewn sgiliau, er enghraifft, comisiwn Twf Ysgol Economeg Llundain a’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD), 2012, gyda’r ddau sefydliad yn pwysleisio pwysigrwydd buddsoddi mewn Cyfalaf Dynol er mwyn sicrhau twf economaidd[1].

 

Mae dadansoddiad o’r dosbarthiad gwirioneddol o leoliadau Dysgu Seiliedig ar Waith yn y cyfnod 2007-2011 ar gael: http://dera.ioe.ac.uk/19749/1/140319-evaluation-work-based-learning-wales-2007-2011a-en.pdf 

 

Bydd y nifer o leoedd fydd yn cael eu heffeithio yn dibynnu ar y math o leoedd prentisiaeth sy’n cael eu hariannu. Gwnaed penderfyniad polisi i symud tuag at brentisiaethau lefel 3 a 4, sy’n ddrutach, ond sy’n cefnogi swyddi o ansawdd gwell, o gymharu â phrentisiaethau sylfaen lefel 2.

 

Mae yna nifer o ystyriaethau asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb. Mae lleoedd prentisiaethau yn ysgogwyr allweddol ar gyfer mynd i’r afael â’r agenda dlodi. Mae darparu’r sgiliau sydd eu hangen ar bobl er mwyn iddynt sicrhau a pharhau mewn gwaith yn hollbwysig er mwyn lleihau lefelau tlodi, yn arbennig ymysg y rhai nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant (NEET). Mae’r polisi prentisiaethau yn bolisi pob oedran hefyd. Mae rhywfaint o dystiolaeth i awgrymu bod y polisi hwn yn cael mwy o effaith ar rai pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig a phobl ddifreintiedig oherwydd mae rhai o’r grwpiau hyn yn fwy tebygol o fyw mewn tlodi os nad ydynt mewn cyflogaeth na hyfforddiant.

 



[1] OECD (2012). Promoting Growth in All Regions. Lessons from Across the OECD).

  www.oecd.org/site/govrdpc/50138839.pdf